Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf am yr achosion o gryptosporidiwm sy'n gysylltiedig ag ymweliadau â fferm yn y Bont-faen

Cyhoeddwyd: 8 Mai 2025

Datganiad

Cafodd trydydd cyfarfod y Tîm Rheoli Brigiad i asesu brigiad parhaus cryptosporidiwm sy'n gysylltiedig ag ymweliadau â Siop Fferm y Bont-faen, Fferm Marlborough Grange, Cross Ways, y Bont-faen CF71 7LJ ei gynnal heddiw (8 Mai).

Mae'r brigiad o achosion wedi arwain at 16 o bobl yn gorfod aros yn yr ysbyty am o leiaf un noson. 

Mae'r fferm wedi rhoi'r gorau i'r holl weithgareddau bwydo anifeiliaid cyhoeddus yn wirfoddol ac mae'n cydweithredu â'r ymchwiliad. 

Mae cryptosporidiwm yn baraseit sy'n gallu achosi salwch gastroberfeddol, sy'n aml yn gysylltiedig â chysylltiad ag anifeiliaid, yn enwedig anifeiliaid fferm ifanc fel lloi ac ŵyn. Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn rhybuddio'r rhai sydd wedi dod i gysylltiad ag achosion heintiedig i gymryd gofal ychwanegol i osgoi trosglwyddo'r haint i eraill.

Meddai Su Mably, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i ymchwilio i'r brigiad o achosion hwn. Er bod haint cryptosporidiwm fel arfer yn ysgafn ac yn clirio ar ei ben ei hun, gall achosi salwch mwy difrifol mewn plant ifanc a phobl â systemau imiwnedd gwan. Os gwnaethoch ymweld â'r fferm ac rydych yn teimlo'n sâl, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG 111.

Mae'n bosibl i'r haint hwn gael ei drosglwyddo o un person i'r llall, er enghraifft, os yw rhywun yn gofalu am aelod o'r teulu sy'n sâl.  Mae'n bwysig amddiffyn eich hun drwy olchi eich dwylo'n dda, yn enwedig cyn paratoi bwyd”.

Mae prif symptomau cryptosporidiwm yn cynnwys:

  • Dolur rhydd dyfrllyd
  • Poenau stumog neu grampiau
  • Cyfog neu chwydu
  • Twymyn ysgafn
  • Colli archwaeth
  • Colli pwysau

Mae symptomau fel arfer yn dechrau dau i 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â'r paraseit a gallant bara hyd at bythefnos.
Er mwyn helpu i leihau'r risg o haint, mae pobl sy'n ymweld â ffermydd yn cael eu hatgoffa i ddilyn y rhagofalon hylendid hyn:

  • Osgowch gysylltiad agos ag anifeiliaid – gan gynnwys dal, cofleidio neu gusanu – gan fod hyn yn cynyddu'r risg o salwch yn sylweddol.
  • Dylech bob amser olchi eich dwylo'n drylwyr â sebon a dŵr cynnes ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid, ar ôl cyffwrdd ag esgidiau neu ddillad, a chyn bwyta neu yfed. Nid yw geliau dwylo ag alcohol yn darparu glanhau digonol. Defnyddiwch sebon a dŵr cynnes bob amser. 
  • Peidiwch â bwyta nac yfed pan fyddwch yn cyffwrdd ag anifeiliaid neu’n cerdded o gwmpas y fferm.
  • Dylech dynnu a glanhau esgidiau a golchi eich dwylo ar ôl gadael y fferm.
  • Goruchwyliwch blant yn agos i sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo'n iawn ac yn osgoi cyswllt agos â'r anifeiliaid.
  • Dylai menywod beichiog gymryd gofal arbennig ac osgoi cysylltiad ag ŵyn newydd-anedig yn ystod y tymor wyna.

Dylai'r rhai sydd wedi bod yn sâl gyda'r symptomau uchod yn dilyn ymweliad â fferm:

  • Fod yn arbennig o ofalus i osgoi lledaenu'r haint i eraill gartref drwy ymarfer hylendid da, gan gynnwys golchi dwylo'n aml â sebon a dŵr cynnes a pheidio â rhannu tywelion, dillad gwely nac eitemau personol eraill nes eich bod wedi gwella'n iawn. Mae'n arbennig o bwysig golchi eich dwylo cyn paratoi bwyd.
  • Osgoi nofio am bythefnos ar ôl i'w symptomau ddod i ben. 

Dylai unrhyw un sydd â symptomau ac sydd wedi ymweld â Siop Fferm y Bont-faen – yn enwedig y rhai a gymerodd ran yn y sesiynau bwydo lloi neu ŵyn – gysylltu â'u meddyg teulu neu ffonio GIG 111 a rhoi gwybod iddynt eich bod wedi ymweld â'r safle.

Mae rhagor o wybodaeth am gryptosporidiwm ar gael ar wefan gov.uk:

https://www.gov.uk/guidance/cryptosporidium-public-advice
 

OSZAR »