Cyhoeddwyd: 18 Mehefin 2025
Mae ystadegau swyddogol newydd gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru yn dangos mai canser yw prif achos marwolaethau yng Nghymru o hyd. Buodd yn gyfrifol am chwarter yr holl farwolaethau yn ystod 2024.
Roedd canser yr ysgyfaint, y coluddyn, y prostad, a chanser y fron ymysg menywod yn gyfrifol am bedwar o bob deg marwolaeth canser (43%) yn ystod 2024.
Mae canser yr ysgyfaint yn cyfrif am ddau o bob deg marwolaeth canser (19%), er bod marwolaethau o ganser yr ysgyfaint wedi gostwng yn gyson ymhlith dynion dros y ddau ddegawd diwethaf. Fodd bynnag, mae marwolaethau ymhlith menywod heb newid i raddau helaeth. Mae hyn yn adlewyrchu'r rhyngweithio cymhleth sydd ar waith rhwng patrymau ysmygu y gorffennol, diagnosisau cam hwyr, a chyfraddau goroesi gwell.
Mae cyfraddau’r marwolaethau o ganser yn parhau i fod yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o'u cymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, ac ni chafwyd gwelliannau iddynt dros y cyfnod yr adroddir arno. Roedd y gyfradd 52% yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ystod 2024.
Mae dros hanner yr holl farwolaethau canser yng Nghymru ymhlith pobl 75 oed a hŷn. Wrth i boblogaeth Cymru heneiddio, mae hyn wedi bod yn codi'n gyson. Bu cynnydd o 48% yn 2002 i 57% yn ystod 2024.
Mae'r darlun o farwolaethau o ganser ar ôl y pandemig yn dal yn aneglur. Gall effeithiau parhaol y pandemig - yn enwedig ymhlith y rhai sydd bellach yn cyflwyno â chlefyd mwy datblygedig - barhau i ddylanwadu ar dueddiadau marwolaethau yn y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn parhau i’w monitro ac adrodd arnynt.
Dywedodd yr Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru:
“Mae’r dadansoddiad data diweddaraf hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymdrechion parhaus o ran atal canser, cael diagnosis a mynediad cynnar at driniaethau, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae hyn yn cynnwys manteisio ar sgrinio am ganser y coluddyn a chanser y fron – a sgrinio am ganser yr ysgyfaint yn fuan – yn ogystal â gwell mynediad at atgyfeiriadau gan feddygon teulu i bobl sydd eisoes â symptomau lle’r amheuir canser. Ond gwyddom o'n hymchwil flaenorol y gellir atal hyd at bedwar o bob deg achos o ganser yng Nghymru. Mae ein hadroddiad newydd yn dangos mai canser yw prif achos marwolaethau yng Nghymru o hyd a’i fod yn gyfrifol am un o bob pedwar o'r holl farwolaethau. Mae dros hanner yr holl farwolaethau canser yn digwydd ymhlith pobl 75 oed a hŷn.
“Roedd pedwar canser – canser yr ysgyfaint, y coluddyn, y prostad, a’r fron ymysg menywod – yn cyfrif am dros bedwar o bob deg (neu 43 y cant) o’r holl farwolaethau canser yng Nghymru y llynedd. Achosodd canser yr ysgyfaint fwy o farwolaethau na’r un fath arall o ganser.
“Mae’r anghydraddoldebau yn parhau i fod yn amlwg iawn. Mae marwolaethau cyffredinol o ganser yn uwch yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o'u cymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Ni chafwyd gwelliant go iawn rhwng 2002 a 2024. Roedd y gyfradd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig unwaith a hanner (neu 52 y cant) yn uwch nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2024. Roedd yr anghydraddoldebau yn llawer ehangach o ran canser yr ysgyfaint. Bu cyfradd y marwolaethau o ganser yr ysgyfaint ddwywaith a hanner (neu 147 y cant) yn uwch na’r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
“Mae diffyg sylfeini iechyd a llesiant yn rhy gyffredin yng Nghymru. Mae cartrefi sy’n iach i bobl fyw ynddynt, swyddi da, bod â digon o arian i dalu’r biliau, cysylltiadau â phobl yn ein cymunedau, addysg a sgiliau, ac amgylcheddau diogel a glân yn annigonol, neu maent ar goll yn gyfan gwbl. Mae hyn yn arwain at iechyd gwaeth a bywydau’n cael eu torri’n fyr. Mae hyn yn creu anghydraddoldebau iechyd (gwahaniaethau o ran iechyd rhwng grwpiau o bobl a chymunedau) neu’n eu gwneud nhw’n waeth.