Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwahodd cydweithwyr i gysylltu â'r Uned Gwyddor Ymddygiad wrth i adroddiad newydd dynnu sylw at effaith

6 Mai 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwahodd cydweithwyr a phartneriaid ar draws GIG Cymru i gysylltu â'i Uned Gwyddor Ymddygiad i edrych ar sut y gall gwyddor ymddygiad helpu i wella eu gwaith. Caiff ei ategu gan fewnwelediadau o adroddiad blynyddol sydd newydd ei gyhoeddi gan yr uned. 

Mae Adroddiad Blynyddol 2024–25 yr Uned Gwyddor Ymddygiad yn tynnu sylw at sut mae'r tîm wedi cefnogi adrannau a gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan eu helpu i ddylunio strategaethau, gwasanaethau a chyfathrebu mwy effeithiol. Mae'r adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o'r byd go iawn ynghylch sut mae gwyddor ymddygiad wedi helpu timau i fynd i'r afael â heriau cymhleth ym maes iechyd y cyhoedd drwy ganolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol sbarduno penderfyniadau a gweithredoedd pobl. 

Dywedodd Ashley Gould, Cyfarwyddwr Rhaglen yr Uned Gwyddor Ymddygiad: 
“Rydym am rymuso cydweithwyr sy’n gweithio ar draws y system iechyd, drwy ystyried ac ymateb yn rheolaidd i ymddygiad dynol wrth ddylunio a chyflawni eu gwaith. P'un a ydych chi'n gweithio ym maes strategaeth, gwasanaethau neu gyfathrebu, mae ein tîm yma i'ch cefnogi chi.” 

Ers ei lansio yn 2022, mae'r Uned Gwyddor Ymddygiad wedi cefnogi 77 o grwpiau rhanddeiliaid, gan gynnwys 41 o dimau mewnol o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae uchafbwyntiau eleni yn cynnwys llwyddiant parhaus y Fenter Gwaith Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad (BICI), a helpodd i ailgynllunio dros 30 o gyfathrebiadau ar draws gwasanaethau fel Sgrinio, Diogelu Iechyd a Gofal Sylfaenol. 

Dywedodd Dr Mike Simmons, Arweinydd Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Microbioleg yn Hywel Dda: “Mae wedi bod yn agoriad llygad, a dweud y gwir. Wrth i mi ddatblygu fy manyleb, sylweddolais fod gen i ddwy gynulleidfa wahanol mewn gwirionedd gydag ymddygiadau targed gwahanol. Fe helpodd yr Uned Gwyddor Ymddygiad ni i wneud synnwyr o hynny.” 

Mae'r Uned Gwyddor Ymddygiad hefyd yn arwain gwaith gwella ehangach trwy ei menter Asiantau dros Newid Ymddygiad ac mae wedi tyfu Cymuned Gwyddor Ymddygiad Cymru i dros 350 o aelodau—gan greu rhwydwaith cryf o ymarfer ar draws y system. 

Mae'r Uned Gwyddor Ymddygiad yn croesawu cyswllt gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am waith yr uned neu archwilio sut y gall gwyddor ymddygiad gefnogi ei dîm. I ddechrau sgwrs, e-bostiwch [email protected].  

Mae Adroddiad Blynyddol llawn 2024–25 ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru YMA.

OSZAR »